Teulu bach ni

Wednesday, November 11, 2009

Y metamorffasis

Dyma ni, ffatri gwneud modelau llyr. Mae o wedi ail afael yn fawr iawn hefo gwneud y modelau Warhammer eto.... ond
mae yna lot mwy o waith paentio yn mynd ymlaen, ac mae o'n cael hwyl arni hefyd.
Dillad sydd i fod yn y drawer yma credwch fi, ond hefo bob un hobby, mae angen lle gwneud y masterpeace.

Friday, October 30, 2009

Llundain
















Wel dyma ychydig o lunie a dynnwyd adeg ein 5 diwrnod yn Llundain. Roedd y tywydd yn fendigedig, a'r plant â diddordeb MAWR yn yr hyn oedd yn gysylltiedig â Harri'r VIIIfed gan eu bod yn astudio'r Tuduriaid yn yr ysgol. Felly wele ni yn Hampton Court, yn Greenwich Observertory, o flaen Tower of London, Big Ben, ac yn Jury's Inn yn Heathrow ar ôl diwrnod o serious cerdded!
Mae'r fleeces ser wedi para blynyddoedd! Da iawn Gelert!
Gobeithio fod pawb pawb wedi mwynhau'r hanner tymor! A do, cawsom gyfle i ddeud helo i Steffan, Karoliina a Cynan (a Basha) yn Staines - a phawb i'w gweld yn hapus iawn.

HWYL!!

Wednesday, October 28, 2009

Enlli Morgan Hughes 28/10/00 @ 18:56

Dyma hi wedi cyrraedd 9 oed !!! yr unig ferch dwi rioed wedi cyfarfod o day 1 o'i bywyd sniff sniff yndw, dwi'n mynd yn emosiynol wan sniff.
Enlli yn torri y gacen Gluten free hefo Alina Jade ar ol dod adra or cinema heno. Mynd i weld y film "up" ddaru ni. Da oedd o hefyd.
Dyma nhw yr earings newydd oedd Enlli isho.
Dyma ni "close up " or gacen. sori os di'r flash wedi or oleuo'r gacen braidd?? ond dyn sain ydwi ac nid boi camera, so fedrwchi gredu bod y gacen yn swnio'n fabulous.

Tuesday, October 27, 2009

wyrach??



Arbrawf purrrrrrrrrrrrrr ydi hwn. dwi di bod yn methu rhoi lluniau i mewn a dim arall ond dwi'n meddwl bod dwi di ddeallt o rwan??

So lluniau or kitties yma yn cael hwyl di rhain i gyd


Steff ydi y convict yn y llun yn siarad hefo Llyr heddiw. dwi di ymaelodi hefo y SKYPE thing yma, ac mae o yn dda ma' rhaid fi ddeud, galwadau ffon am ddim trost y we ac mwy, ac tydio ddim yn costio dim?? isho pawb ddechra hefo fo wir yr

niwsance

well tyd'r blog yma ddim yn gwneud dim synwyr rwan.... dwi'n methu'n glir a rhoi dim ar y thing yma... sooooooo administrator, sort it out, fysan bechod colli y lluniau i gyd bysa?

Tuesday, October 13, 2009

Nant Rhaeadr ydi'r llun yma ger neu yn Cwm ystwyth. Dyma Ni yn Cwm Ystwyth ger yr hen chwarel Plwm ac Arian. Y Tywydd yn ofnadwy dydd sul pryd athom ni lawr i recordio insallment nesa' o Galwad Cynnar.
Dyma tarddiad yr afon Ystwyth, sydd tua 5 milltir o Devils bridge. Sydd hefyd yn bwint canolog o Gymru ( neu ddim yn bell ohono medda nhw i mi..... )
Nant yr arian ydi fan hyn, sef gwarchodfa y Barcud coch. Roedd o'n ffantastic gweld yr adar sglyfaethus yn " dive bombio" am eu bwyd a ninau'n sefyll mor agos iddynt i recordio.
Ac ar y ffordd adra, dyma gip o melinau gwynt trydanol yr ardal. I gyd wedi eu gosod ar ben hen chwareli plwm ac coper ac arian yr ardal..
Er bod y tywydd yn ddiflas ar ddechra'r diwrnod, mi ddoth yn pnawn braf ond oer yn diwedd..

Tuesday, October 06, 2009

Y Gofod

Sioned a fi wedi ei'n dallu neithiwr gan y lleuad ty cefn i'r ty....
Wedi cael noson da neithiwr yn sbio ar y ser ty allan ty ni yn sir fon. Y Lleuad ydi hwn wedi ei dynnu trwy lens y telescope.

Dydd Sul dwytha'f mi fueshi draw yn cwm idwal ger llyn Ogwen yn recordio Galwad cynnar sydd yn cael ei ddarlledu bore sadwrn so cofiwch wrando.
Ond os ydach chi'n methu gwrando?? clickiwch ar y link yma i fynd i tudalen BBC Galwad Cynnar ac gewchi weld lluniau or daith ac hefyd ail wrando ar y darllediad yn amser eich hyn...

http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/galwadcynnar/


Llygod bach ty ni yn cysgu di rhain... sbiwch ciwt hee hee hee
Ac wedyn Patrick " sion" Moore yn helpu gosod allan y telescope i sbio ar y planed Jupiter...
Roedd o'n edrych yn lot gwell trwy'r telescope na be mae'r llun yn ei ddangos, ac be oedd yn ffantastic oedd gweld y lleuadau bach Io, Ganime ac y llall mewn llinell hollol syth yn cael eu gluo fynnu gan lleuad ni. Hollol Breath takeing. Ac roedd cael gweld y llygad mawr coch ac y streips ar hyd Jupiter yn reit flabbergasting hefyd.
Un arall allan o focws or lleuad, cyn
Gorffen hefo 2 lun arall o traeth bach Cwm idwal.

Dwi ffwrdd i cwm Ystwyth dydd sul nesaf, so masiwr fydd na fwy o luniau i ddod pryd gai gyfle..
TTFN.
xxx

Wednesday, September 23, 2009

Fi yn y parti priodas ar y gyrn coch ger clynnog fawr... a dim cwrw sydd yn y cwpan plastic, ond diet coke. ( cyn i neb ddeud rwbath ).
Pwy sy'n deud bod y gath bach yma yn cael ei hambygio????

Sioned yn trio allan beic roedd Jon Clapham wedi ei safio ydi hwn... mae jon yn hoffi dod a bob dim mae o'n ei adeiladu.


Lluniau o copa Moel Famau ydi rhain, hefo hofrennydd yr Heddlu yn gwylio beicwyr ar y ponderosa ger llangollen. Mi oedd yna rali mawr..... ond neshi fethu mynd gan fy mod yn gweithio am ben mynydd.
Sbiwch clir di'r awyr.............. ac wedyn aeth hi'n oer yna, er neshi losgi fy mhen chydig bach. Syniad gwirion cael tori gwallt noson cyn mynd, er mi oeddwni di bod mewn parti priodas diwrnod cynt.
Sioned yn testio brecs y beic...

A fi yn recordio eto ger twr jubilee

Llun trist o beic heb ffrindiau

Sion yn cael ei hambygio eto a,
Diwedd grandioso or twr ar ben y mynydd.