Teulu bach ni

Thursday, September 28, 2006

Er Cof Annwyls




A dyma ni, unwaith eto yn rhoi nodyn bach i'r teulu am ei'n colled fory.
Mae'r hen Audi A6 yn ei'n gadael ni ac yn symud ochr i rwbath 'chydig bach mwy practical. Ia hefo calon 'chydig bach yn drwm ....( ond dim cweit mor drwm a pryd neshi golli'r BMW ) mae costau bywyd wedi brathu ac da ni fatha' teulu yn gorfod deud diolch a ta ta ir car o wolfsburg, just drws nesa' i VW. Da ni di cael amseroedd braf iawn hefo'r car, yn enwedig yr adegau pryd oedd y sat nav yn colli ni ar ffyrdd 2006, pryd oedd yr onboard map yn 2001. Son am chwerthin. Gathom ni adeg digon rhyfedd dechrau'r flwyddyn pryd farwodd yr oil pump, ond wrth lwc roedd y car dal dan warranty, ac felly ddechreuodd y blas o gael "estate" arnom.
Dwi ddim am ddeud be da ni di gael, ond hoffwn eich rhybuddio bod da ni yn gwbod be da ni'n neud ac yn stickio hefo'n dewis ar ol cysidro a pwyso a mesur hefyd, da ni di penderfynnu mynd i'r Dwyrain Pell ac wedi cael Honda. ( dwi'm yn deud pa fath ) 2 flynadd service intervals, £200 general service cost pob 2 flynedd lle mae'r Audi yn gweithio allan i fod yn fwy na hyna o dipyn pob blwyddyn. So bye bye amigo ac helo muchacho. Ma rhaid fi ddeud mi oeddwn i isho car debyg i brawd mawr ond roedd y Honda yn rhatach.
Anyhoo mae'r nosweithia' hwyr roedd y car du yn ei gadw ac y ffaith i fod o wedi tyfu moustach yn to much so off a fo. Lle da di Harlech hefyd Garejes da rhad yna. Enlli wedi gofyn i fi ddangos llun hi a trowsus yn teithio'r weh, a'r ddau yn dychryn gweld hen lun o brawd mawr ar y traeth. Good time had by all.
Mae Miaws yn agoshau at fod yn fam, mae o reit funny gweld hi'n trio cael hyd i nyth yn barod i ddydwy.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home