Hanes o'r dwyrain



Felly be dani wedi bod yn ei wneud yn fan hyn te...?! Wel penwythnos cynt aethon ni i Warrington i ddangos gwaith Dad, a'i hen dy, i Ang a Mac cyn mynd yn ein blaenau wedyn i gael gole bach uwch ben gwely Macsen.
Yna mae'r penwythnos dwytha wedi bod yn llawn partis pen blwydd, gwaith yn yr ardd, a siopa am ddillad angenrheidiol. Mae Mac wedi cael spurt o dyfu eto, a phob dim yn edrych yn dynn arno fo, felly Asda Queensferry, a Broughton oedd pia hi.
Ddaru Yncl Iwan a Gwern ddod draw pnawn Sadwrn i helpu rhoi slab gwaelod ffens eto, ac i helpu dal monstyrs glas. Dani wedi clirio sgrwff wrth ochr y ty ac wedi hadu gwair yna rwan. Roedd hi mor braf pnawn Sul ddaru ni fwyta allan wrth yr ochr 'taclus'! Felly hwre - dyna gornel fach arall wedi ei sortio. Y gamp nesa ydi trio dod รข mwy o liw/flode i'r ardd - ond yn anffodus dydi Wern Uchaf ddim yn dda iawn am flode!! Wel rhif 11 y stryd o leiaf!
Tan tro nesa...
B :-)

4 Comments:
Just chydig o bwyntiau. 1. Tydi Big H a Brawd mawr ddim yn plygu digon dyfn i godi'rslabs yn iawn. Bend the knees boys not the back !!!! 2. Lliw haul sydd ar Iws?? ta wedi mynd yn goch mae o ha ha ha ha ha. 3. ydi jane yn gwbod bod iwan wedi dwyn menig stof hi??? hoyw iawn !!! 4. Falch o weld bod Gwern bach wedi cael sgidie or diwedd, bechod na sandals ydyn nhw, fydd ei draed bach o'n oer yn y gaeaf. 5. ydi'r dwr wrth y bwrdd bwyd yn golygu bod a'th y barbiQ yn wrong?? ta chwaer ddoth a gwaith adra ha ha ha ha ha ha ha ha ha ha ha ha.
Chware teg het macsen yn cool iawn, a falch o weld y ddau yn bwyta wrth y bwrdd sy'n wahanol i'r monsters ochr yma i'r byd. Falch bod pawb wedi cael hwyl, yn cynwys Big Bro ai mittens llwyd.
Argol, Dyl...............ti'n tanio! Chwarae teg mi wnes i chwerthin dipyn ar dy sylwadau. Y mae decorwm naturiol Brawd Mawr yn fy rhwystro rhag ymateb. Un tawel fues i 'rioed!
Just dadansoddi be dwi'n weld dwi sdi..... no malice intended. Falch o glywed bod na dim fi sydd yn chwerthin ar joc's fi ac eu bod nhw 'chydig bach yn ddoniol i pobl eraill. Dim digon o chwerthin yn y byd ma, fel ma hi.
Newydd feddwl...... Pam bod gwynebau chi mor goch pryd na slabs polystiryne da chi'n godi. Ha ha ha ha ha hah h h h ha ha ha ha ha ha ha ha
Post a Comment
<< Home