Tash mania !!!!




Ai fi sy'n meddwl ta di Meg yn edrych yn shifty iawn yn y disguise newydd??? debyg bod hi'n planio rwbath digon amheus!. Da ni newydd gyrraedd yn ol o Dalsarnau yn rhoid y dogfennau cofrestru yr Audi bach yn ol i'r Garej. Mae'n debyg bod y garej wedi gwerthu'r car i garej Audi lawr yn Portsmouth, so mae'r hen gar ar daith dydd llun nesaf. Wedi dychryn ar faint o gloch roedd y tri ohonani wedi codi bore ma, sef 0715 !!!! pawb blaw trowsus wedi cael brecwast ac wedi newid cyn 0800hrs, so off a ni lawr am Dalsarnau i ddanfon y dogfennau.
Cyrraedd y garej am 0920hrs ac penderfynnu mynd am sbin drwy blaenau ac yna am y mignent nes cyrraedd Pentrefoelas ( canol y bydysawd ) tua 1100hrs. Y ddau fach yn mynd allan i chwarae tra bod mam a fi yn swapio warwound stories ( damia'r diabetes ma !! de mam??? ) Rhoid crash course i mam ar sut i reclinio yn y cadair newydd, yna cinio ( Diolch mam a dad ) ac off a ni am adre.
Stopio yn Capel Curig i gael diod yn garej clogwyn, yna mynd i sbio ar y dwr ger y bont wrth y hostel a sylwi bod dim ond un dafad ddu oedd yn y cae ma' llawn defaid gwyn. Cyrraedd adra a meddwl am be i sgwennu yn hwn.
Dwi di gaddo rhoi llun o Meg yn y Blog ma, so dyma hi. Bechod am y moustash...... ond na fo de???? K9 fashion is a curious beast. Y llun nesa' ydi Llyr yn coedan helicopters. Dwi'n teimlo'n euog braidd i fforsho fo fynd i fynnu, ond na fo de. Traddodiad teuluol hee hee hee heee heeh ehe heeeh he ehe hehe he he he ehe.

0 Comments:
Post a Comment
<< Home