Teulu bach ni

Wednesday, October 04, 2006

Callio rwan.





A dyma ni rwan yn callio 'chydig bach ac am rannu 'chydig o lunia'r hen gath sydd wedi bod yn cael lle fel brenhines yn ddiweddar. Bechod bod y gath bach wedi cael blas ar fwyta' Lemons.
Dwi di cael dechrau gwneud O.B's eto rwan, sef Outside Brodcasts i pawb sydd ddim yn talking the talk. Talwrn y Beirdd yn Llanwnda dwi'n recordio yn y llun a fydd yn cael ei ddarlledu mewn tua pythefnos. Dwi'n gorfod mynd i neud y profio'n gwaed ma eto fory, so mashwr fydd na post go danllud yn damnio pawb a popeth ar ei ol. Llyr wedi bod yn hogyn da yn cael gwneud ei brofion pnawn ddoe. bechod creadur bach. reit ta nol i'r salt mines.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home