Pobl hardd Dyffryn Clwyd!


Henffych Oll!
Dyma fi'n rhoi diweddariad i chi o fynd a dod y Rhewl! Yn falch iawn o weld car swanc Moch Môn - neis wir! A da iawn Mam hefo'i hachubiaeth Rolf Harrisaidd o'r ci 'na o Gwytherin!
Mae Iolo heddiw wedi mynd i nofio mewn gala yn Wrecsam, ond ma'i droed o'n glec braidd ar ôl chwarae pêl-droed i Rhuthun ddoe. Ma' nhw ar frig y tabl ar ôl curo Marchwiel ddoe ac Iolo ydy prif sgoriwr y tîm! Mae Lois dal wrthi hefo'r gymnasteg 'ma ac yn dod â dagrau i'n llygaid i wrth 'neud y 'splits' o hyd! Mae hi wedi cyrraedd Lefel 6 ar giamocs ar y trampolîn hefyd! Ond y stori fawr ydy.................................steil gwallt newydd Gwern!!!! Be' da chi'n feddwl o hwn te??? Swanc or wot?????
Jane oedd yn cymryd y dosbarth Ysgol Sul bore 'ma , felly dyma fi'n anfon llun ohoni hithau hefyd, er mwyn i chi weld pa mor sanctaidd ydan ni yma ac................er mwyn i chi gael gweld llun o ddau o bobl hardd Dyffryn Clwyd!

9 Comments:
WAW.....Jane....ti'n edrych yn ffantastic! Dwi'n hoffi'r steil newydd yn ofnadwy. Mi fydd o ar y catwalks yn Porthcawl a Leominster tymor nesaf yn saff!! Rhaid i mi ddweud bod Gwern yn edrych fel seren teledu, a bod y steil gwallt yn wid wiw go iawn. Da iawn chi Iolo a Lois hefyd, dim bod fi'n deall pel droed, nac wedi gwneud y splits ers blynyddoedd, (genfigenus iawn ohonoch)!! Iwan....yn amlwg bod y plant yn cymeryd ar ol eu mham. Mae ganddynt steil, looks a thalent. Hi hi hi hi hi!!!!!!
Llongyfarchiadau i bawb yn Rhewl am wneud yn dda wrth godi eu coesau i bob giamogs. Rhaid dweud mae pwy bynnag roth llun honna ar ein blog ni ishio cael ei BANIO am gymharu ffasiwn lun hefo unrhwy aelod o teulu ni.
Just isho deud bod yndi ..... ma S.............................
Mae sensoriaeth ddim yn caniatau i fi ddeud mwy.
Jane babes, foxy ta be ???? Mi roedd y llun yna arfer dychryn fi yn wirion yn y den erstalwm, ond mae'n neis meddwl bod ei ddylawad hi yn cario 'mlaen. sock it to em yn yr hen ysgol sul na !!! rhaid ti gael rucksacks a hen gopia' or testament newydd a neud nhw redeg drost dduw rownd y capel o leia 14 gwaith. Haaaaa haaaaa haaaaa haaa ha ha ha ha ha.
Dyyyyyylllllllllllllaaaaaaaaaaaaan!Maaaaaaaaaaaaaaaaaammmmmm!
Peidiwch â throi rownd rwan..........ma'r hen wreigan yn edrych arnoch chi.........ydach chi'n medru teimlo ei llygaid yn syllu, syllu, SYLLU arnoch chi! (Chwerthiniad dieflig!)
Beth sydd gan pawb yn erbyn y llun? Artist da iawn wedi ei baentio. Di'r hen wreigan ddim mor ofnadwy a hyna? Wyrach ei bod yn berson neis iawn. MI fasa'n gallu bod na'r rheswm nad yw'n gwenu ydi am fod ganddi dim dannedd yn ei phen, a dannedd gosod dim wedi eu darganfod.! Rhag eich cywilydd yn barnu rhywun cyn eu hadnabod. Ok....so mae hi angen llond pwced o anti-wrinkle cream a tweak bach yma ac acw efo'r gwallt........hei Iws rwbath digon tebyg i hyna ti angen.....o.. heblaw am y gwallt bit. Ma hwna angen rhywbeth mwy na tweakio!!!
Pe tasech chi i gyd yn gwybod ac yn adnabod NAIN SIR FON[hefo to bach] mi fuase yr un ohonoch ishio ei llun hi ar blog ni. Dyna`r cwbwl sydd geni ddweud am dani. amen.
Ddeudodd Dyl ddim ei bod yn perthyn! Mi o'n i'n meddwl mai jyst hen lun oedd o!
Hen lun ydio ond mai yn edrych yr un fath a honno, hen wyneb brwnt a trwyn yn union r`yn fath a hi, a mi fedrai chlywed hi rwan yn gweiddi ac yn frwnt ei thafod hefo mam a Llio a fi pan oedd hi`n byw am gyfnod hefo ni yn Criccieth.
Dwi methu deall fod Iwan wedi rhoi llun o hogyn bach del hefo gwallt mor COOL yn ochr hen lun dynas hefo gwyneb mor hyll.
Post a Comment
<< Home