Y big bang



Dyl di meddwl fasa fo'n trio bod yn glyfar gyna, a dal ei wynt am mor hir a phosib ar ol bwyta tin cyfa o curried beans. Mi fydd rhaglen arbennig iawn yn cael ei ddarlledu wythnos nesaf ar BBC1 gan Patrick Moore, gan ei fod yn meddwl ei fod wedi darganfod bydysawd newydd yn gasses melynwyrdd 3. Mae criw Mr Moore yn cau gadael i mi gael fumigators i fewn i'r ty, rhag ofn amharu ar y nwyon! Diolch byth bod ni 'di prynu tent...mi fydda i a'r plant yn cysgu yn honno nes mae petha 'di setlo. Yr hen Dyl yn dechra teimlo'n bechod tros fo'i hun rwan 'fyd.....pob amser mae'n ceisio eistedd i lawr mae o'n clywed chantio'n dod o'r de 'Don't sit down....Don't sit down....Don't sit AAAAARGHHHHH

7 Comments:
IESGOB DAFYDD!! Be ddudan nhw yn yr aduniad Dyl??!! Rhaid i mi ddweud nes i chwerthin gymaint yn gwaith daeth Julie atai i weld be oedd mor ddoniol! Gawson ni gwd laff - wel...hyd nes iddi deud "your brother looks like you actually". Doeddan nhw ddim mor ddoniol wedyn..... :-)
Hang on...... pwy or aduniad sydd yn mynd i weld rhain ta? Fel ddwed yr auslanders, never judge a book by it's cover. Da di'r mobile ffons ma sdi. neshi ddychryn bod y ffashwn giamocs yn y ffon i neud y lluniau ma heb son am y pethau eraill mae o'n gallu neud fatha.... derbyn galwadau, a gwneud nhw hefyd ! Yr hen Mr Sony Ericsson wedi cael hwyl yn dyfeisio'r ffashwn beth. HHhhmmmm rhaid fi fynd wan i weld syt fedrai toppio'r stunt yma. Mae na lot o waith meddwl yn mynd i'r petha ma sdi. Tydi sion na fi ddim yn gyfrifol am unrhyw niwed sydd yn digwydd i neb tra'n chwerthin ar y lluniau ma'. Y dylied nhw cael eu dangos mewn controlled enviroments rhag peri niwed corfforol i'r unigolyn tra'n chwerthin ar y posts. Seatbelts optional.
Hwyl am y tro.
Rhaid imi ddweud `rwyt ti heb newid ers dydd dy eni!!!!hahaha
'Da chi eisiau gweld mwy o lyniau gwirion o'r teulu? Mi na'i dynnu mwy os 'da chisho. Dwi'n siwr fedra'i gael llyniau bach del iawn o Dyl i reid ar y blog. Bu rhaid i ni gael llyniau o bob aelod o'r teulu 'fyd. Digri.
O,K ta ....... pa un sy'n debyg i dydd y geni ???
Un a tri.
Dwi'n hurt rwan.
Post a Comment
<< Home