Teulu bach ni

Sunday, May 09, 2010

boo

Dyma fo " on the perch" yn gwylio allan am rwbath.....?? sylwer bod miaws ar y grishau hefyd, ond dim hefo digon o hyder i fentro yn uwch.
Y plant a fi wedi penderfynnu mynd i traeth Dinas Dinlle am dro amser cinio heddiw, oedd hi'n oer ond yn sych yna, ac yn rhyfeddol o wag.
Llyr yn sbio ar hofrennydd yn glanio yn y maes awyr. Roedd y gwynt mor gryf, nes bod yr awyrennau yn crafu top y car i ddod i lanio. Diddorol gweld y gwynab "panic" ar y peilotiaid tra oeddynt yn mynd trwy'r wind shear ar din y runway.
Llanw allan.
Golygfa anhygoel o Eryri, lawr at benllyn.
ac i orffen ....... un or mathau mwyaf adnabyddus or teulu shark, sydd yn nofio ogwmpas ei'n arfordir. Y creadur yma wedi bod yn tor heulo gormod dwi'n amau??

Diolch i bawb am y cardiau, ac os ydachi wedi anghofio?? peidiwch a trafferthu gyrru dim byd. Dim ond dwrnod arall ydio yn diwadd.


0 Comments:

Post a Comment

<< Home